Manon Dafydd: Iaith yn y Tir

Nid oes un bodyn dynol wir yn berchen ar unrhyw un darn o dir yn y byd. Mae’r tir yn perthyn i bawb ond i neb ar yr un pryd. Mae’n perthyn i’r Ddaear, a’r pethau byw sy’n tyfu ac yn ffynnu arno, ohono ac oddi yno. Mae’n perthyn i’r rhai sy’n gofalu amdano, yn ei barchu i’r eithaf ac yn cyd-fyw ag o, yn hytrach na gweithio yn ei erbyn neu’n ceisio ei reoli.

Mae’n anodd felly penodi iaith i ddarn o dir, gan fod ieithoedd wedi eu creu gan fodau dynol, sydd ddim o hyd yn parchu’r tir. Yn wir, mae llawer iawn ohonom ni, yn enwedig yn y Gorllewin fodern, wedi cwbl anghofio o ble rydan ni’n dod. Mi rydan ni, wedi’r cwbl, yn rhan o fyd natur, yn fodau naturiol ac yn perthyn i’r tir, bob un ohonom.

I mi, mae’r tirwedd o nghwmpas yng Ngogledd-Orllewin Cymru fel petai wedi amsugno iaith y bobl trwy’r canrifoedd. O’r bobl gyntaf i alw’r darn yma o dir yn gartref, i’r bugeiliaid a’r ffermwyr sydd wedi gweithio ar a gyda’r tir, a’r holl anturiaethwyr, botanegwyr ac artistiaid sydd wedi eu hysbrydoli gan y tirwedd anhygoel hwn.

 Hyd yn oed pan gafodd y Gymraeg ei herlid gan bwerau cryfion a bron ei gwthio i ebargofiant, fe wnaeth y tir ddal ei afael ynddi. O’r geiriau a’r termau Cymraeg sy’n disgrifio’r daeareg arbennig, i’r enwau Cymraeg ar ardaloedd, ffermydd, bythynod, coediwgoedd, afonydd, coed a blodau brodorol o bob lliw a llun. Mi wnaeth yr iaith oroesi ynddyn nhw. Mi wnaeth yr iaith oroesi yn y tir.

 

I mi, mae’r tir yn sibrwd yr hen Gymraeg. Cymraeg ein cyndeidiau. Cymraeg yr rhai sydd wedi ein gadael yn gorfforol, ond yn parhau fel eneidiau wedi eu huno â’r ddaear. Cymraeg traddodiad ac atgof. Cymraeg fy nheulu a’m plentyndod. Y Gymraeg fydda i’n siarad â mi fy hun.

Pan fydda i tu allan gyda’r tir yn gwrando’n astud, galla i ddim peidio a theimlo ei fod yn siarad â mi. Yn siarad â’m enaid.

Rwyf wedi treulio amser yn yr awyr agored yn darlunio blodau gwylltion Cymru yn y blynyddoedd diweddar. Rwyf wedi darganfod angerdd o’r newydd i ymrwymo fy hun i ddysgu a rhannu’r enwau Cymraeg ar y blodau hardd rhain. I ddysgu lle mae’r enwau wedi dod ac eu harwyddocad yng nghyd-destun hanes, traddodiad a rhamant Cymru.

Rwyf eisiau cadw’r enwau’n fyw, ac i barhau i siarad yr iaith yn y tir.

Previous
Previous

Gini Wade: How am I connected to the land I live in?

Next
Next

Jill Teague : Living with the Land